Llywodraethwyr

Y Corff Llywodraethol

Mae Bwrdd Llywodraethwyr yn debyg i fwrdd cyfarwyddwyr cwmni a gwnant benderfyniadau ynglyn â sut y dylid rhedeg ysgol. Cynhelir cyfarfod o’r Corff Llywodraethol o leiaf unwaith y tymor a threfnir cyfarfodydd ychwanegol o’r is-bwyllgorau gan y Pennaeth yn dymhorol.

Mae’r Llywodraethwyr yn cydweithio gyda’r Pennaeth i:

  • gytuno ar amcanion a gwerthoedd yr ysgol
  • benderfynu’r hyn sydd i’w ddysgu
  • sefydlu safonau disgyblaeth
  • adolygu cynnydd yr ysgol
  • gyfweld ac apwyntio athrawon
  • benderfynu ar sut i wario cyllid yr ysgol a chymeradwyo cynlluniau datblygu’r ysgol
  • roi gwybodaeth i rieni am yr ysgol
  • lunio cynlluniau gweithredu i sicrhau gwelliannau yn dilyn arolygon yr ysgol.

Mae gan lywodraethwyr ysgol ddyletswyddau, pwerau a chyfrifoldebau cyfreithiol. Rhaid iddynt weithredu ar y cyd ac ni allant weithredu fel unigolion.

Mae llywodraethwyr ysgol yn:

  • rhieni
  • athrawon yn yr ysgol
  • cynrychioli’r Awdurdod Addysg
  • gweithio yn yr ysgol ond nid fel athro neu athrawes
  • gyfetholedig.

Mae rhiant lywodraethwr yn:

  • rhiant i blentyn yn yr ysgol
  • cael ei/eu (h)ethol gan rieni’r ysgol
  • gwasanaethu, fel llywodraethwyr eraill, am bedair mlynedd.

Cadeirydd: Mrs Jenny Williams

Is-Gadeirydd: Mr Cerith Rhys Jones

Pennaeth

Miss Siân Evans

Cynrychiolwyr yr Awdurdod Addysg Leol

Mr Rhys Taylor

Mr Cerith Rhys Jones

Cynrychiolydd Athrawon

Mr Iolo Williams

Cynrychiolydd staff sydd ddim yn addysgu

Mrs Beth Bradbury

Cynyrchiolwyr Rhieni

Mrs Emiko Hughes

Dr Mirain Rhys

Dr Bethan Phillips

Mr Gareth Jones

Llywodraethwyr wedi’u cyfethol

Miss Suzanna Neesom

Mrs Jenny Williams

Miss Cadi Thomas

Mrs Laura Dobson

Clerc i’r llywodraethwyr

Mrs Ann Williams

Daw rhieni sydd yn lywodraethwyr â barn rhieni i’r Corff Llywodraethol ond disgwylir iddynt siarad a gweithredu fel unigolion. Ni ddylent ystyried eu hunain fel llais na chennad ar ran y rhieni: nid ydynt yn pleidleisio dros yr holl rieni’n gyffredinol. Cant statws cyfartal yng ngwaith y Corff Llywodraethol a chânt hawliau pleidleisio.