Blwyddyn 5 – Aneirun Bevan

Athro dosbarth Blwyddyn 5 yw Iolo Williams.

 

Ein thema eleni yw Cofio Canrif. Byddwn yn teithio nôl trwy amser i ddarganfod mwy am ddigwyddiadau hanesyddol yr 20fed ganrif yng Nghymru.

 

Ar hyn o bryd rydw i’n mwynhau darllen Fi ac Aaron Ramsey gan Manon Steffan Ros a Bubble Boy gan Stewart Foster.

 

 

 

 

  • Ymarfer corff – dyddiau Mawrth.

______________________________________________________________________________________________

Aneurin Bevan

Rydyn ni’n falch o enwi ein dosbarth ar ôl Aneurin ‘Nye’ Bevan, y Cymro wnaeth  sefydlu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

 

 

 

 

 

 

______________________________________________________________________________________________

Bardd ein dosbarth yw Anni Llŷn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Our English class poet is Michael Rosen.

 

 

 

 

 

 

 

Arlunydd ein dosbarth yw Kyffin Williams.

 

 

 

______________________________________________________________________________________________

Chwedl ein dosbarth yw Rhys a Meinir. Dyma grynodeb o’r stori gan ddisgyblion Blwyddyn 5:

 

 

Amser maith yn ôl, roedd Rhys a Meinir yn byw mewn pentre yng Ngogledd Cymru o’r enw Nant Gwrtheyrn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Roedd tad Meinir, Ifan, yn gobeithio y byddai Rhys a Meinir yn priodi pan fyddant yn hÿn.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Er mwyn dangos ei fod yn caru Meinir, cerfiodd Rhys siâp calon a’u blaenlythrennau ar y goeden dderwen.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn unol â thraddodiad y cyfnod, ar ddiwrnod y briodas aeth Meinir i guddio oddi wrth Rhys. Fe aeth i guddio yn hollt y goeden dderwen.

Dyletswydd Rhys a’i ffrindiau oedd dod o hyd iddi, ond yn anffodus, ni lwyddasant.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Torrodd Rhys ei galon, a threuliodd weddill ei ddyddiau yn crwydro’r wlad yn chwilio am ei gariad.

Un noson stormus aeth i eistedd o dan canghennau’r dderwen er mwyn cysgodi rhag y glaw.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Yn sydyn, tarodd mellten y dderwen a’i hollti yn hanner. Yng nghanol y goeden ymddangosodd sgerbwd Meinir mewn ffrog briodas. Wrth i Rhys ymestyn ei law i gyffwrdd a’r sgerbwd, trawodd ail fellten ei gefn a’i ladd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Darganfuwyd Rhys a sgerbwd Meinir y diwrnod canlynol ac fe’u claddwyd ym mynwent yr Eglwys.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Sorry, but there aren't any posts in the Blwyddyn 5 – Aneirun Bevan category yet.

Search