Cinio Ysgol

Pwysig

– Gofynnwn yn garedig i chi osgoi anfon unrhyw gynnyrch cnau (gan gynnwys ‘nutella’) ym myrbrydau neu focsys bwyd eich plant gan fod plant yn yr ysgol sydd ag alergeddau.

– Hefyd, gofynnwn i chi dorri unrhyw fyrbrydau megis grawnwin neu domatos yn eu hanner cyn eu bod yn dod i’r ysgol os gwelwch yn dda.

Cinio ysgol a bwyta’n iach

Darperir cinio poeth yn yr ysgol ond gall plant ddod â brechdanau os ydynt yn dymuno. Serch hynny, rhaid nodi, oherwydd rhesymau diogelwch, ni chaniateir dod â photeli gwydr i’r ysgol. Gwarchodir y plant yn ystod yr awr ginio gan arolygwyr pendodedig a Chynorthwywyr Dysgu Dosbarth (CDD).

Pris arian cinio yw £2.60/diwrnod.

I archebu cinio mae angen defnyddio ParentPay – https://www.parentpay.com/

Gwasgwch ar “For Parents” i logio mewn ac i weld atebion i gwestiynau. Os nad ydych erioed wedi archebu cinio, cysylltwch a’r ysgol am gyfrinair. Os ydych chi wedi anghofio’ch manylion logio mewn, ewch i “How to add account recover details” o dan FAQ ar parentpay.com.

Mae’n rhaid archebu bwyd cyn 20.00 y noson gynt. Ni chodir tâl arnoch os yw’ch plentyn yn absennol o’r ysgol.

Mae disgyblion y Derbyn, Bl 1, 2, 3, 4 a 5 yn derbyn cinio am ddim. Fe fydd disgyblion Bl 6 yn derbyn cinio am ddim o 03/06/24.

Dylai fod eich plentyn yn ymwybodol o ymddygiad da wrth y bwrdd bwyta:-

  • Dim siarad â cheg yn llawn o fwyd
  • Dim cerdded o gwmpas y neuadd â bwyd yn eu cegau.
  • Dim taflu bwyd o gwmpas
  • Dim cyfnewid bwyd gyda’u ffrindiau
  • Dim colli bwyd ar y llawr
  • Defnyddio cyllell a fforc yn gywir

Brechdanau bwyd iach

Disgwylir i’r plant sy’n bwyta brechdanau gael pecyn o fwyd iach. Dim siocled na losin. Mae cyflenwad o ddŵr ar gael felly nid ydym yn hapus i weld sudd ffrwyth ac ni chaniateir pop. Mae sawl teulu yn paratoi pecyn o basta a salad a darnau o ffrwyth.

Rhoddir sticeri i blant sy’n gwneud ymdrech i fwyta eu bwyd i gyd ac am fwyta’n iach.

Egwyl

Caniateir i’r plant ddod â ffrwyth i fwyta amser chwarae. Os oes modd torri’r ffrwyth i fyny cyn iddynt ddod i’r ysgol, mae hyn yn sicrhau bod mwy o siawns iddynt fwyta eu ffrwyth yn hytrach na bwyta rhan ohono am eu bod eisiau chwarae.

Llaeth am ddim

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi llaeth am ddim i bob plentyn yn y Cyfnod Sylfaen (Meithrin, Derbyn, Bl 1 a 2).

Dŵr

Rydym yn deall pwysigrwydd yfed dŵr yn aml yn ystod y dydd. Mae perfformiad meddyliol yn gwella drwy yfed dŵr ac mae plant yn gallu canolbwyntio’n well pan nad ydynt yn dioddef o symtomau diffyg hylif – syched, blinder a sensitifrwydd. Mae gennym ffynnon ddŵr yn yr ysgol a chwpanau wrth y sinc ym mhob dosbarth.

Mae Ysgol Mynydd Bychan yn ‘Ysgol Iach’ ac rydym yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Ysgolion Iach. O ganlyniad, gofynnwn yn garedig i chwi beidio ag anfon cacennau pen-blwydd i’r ysgol.