Mae’r ysgol yn rhoi pwyslais mawr ar ddiogelu’r plant yn ystod ymweliadau addysgiadol oddi ar dîr yr ysgol. Bydd pob athro yn cyflawni asesiad risg cyn mynd ar unrhyw ymweliad. Bydd pob oedolyn sy’n mynd gyda’r plant yn cael eu hysbysu o’r asesiad risg.
Nid ydym yn defnyddio bysiau na bysiau mini os nad ydynt yn darparu gwregysau diogelwch. Rydyn ni’n dweud wrth y plant am wisgo eu gwregysau trwy gydol y cyfnod y bydd y bws yn symud.
Bl 4
Storey Arms, Bannau Brycheiniog– ymweliad o ddeudydd. Gweithgareddau awyr agored
https://www.storeyarms.com/rhaglenni/ymweliadau-preswyl-ysgolion/?lang=cy
Ymweliad 2024 : 22/04 – 23/04/24
Bl 5
Abercraf – ymweliad o dridiau. Gweithgareddau Daearyddiaeth ac Awyr Agored
https://www.callofthewild.co.uk/
Ymweliad 2024 – 17/04 – 19/04/24
Bl 6
Llangrannog –ymweliad o 5 diwrnod, wythnos olaf cyn hanner tymor Hydref – elfen hollbwysig o’r gwaith pontio gydag Ysgol Glantaf.
https://www.urdd.cymru/cy/ein-gwersylloedd/llangrannog/
Hydref 23 – 27, 2023
Codi Tâl
Mae’r holl addysg sy’n digwydd yn ystod oriau ysgol yn rhad ac am ddim. Nid ydym yn codi tâl am weithgareddau sy’n rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol, ag eithrio hyfforddiant cerddorol unigol neu mewn grŵp. Rydyn ni’n gwahodd rhieni i gyfrannu tuag at gostau ymweliadau addysgiadol neu cwmnïau dramau a fydd yn cyfoethogi’r cwricwlwm a phrofiadau addysgiadol y plant. Mae’r holl gyfraniadau yn wirfoddol. Gallwn ohirio ymweliad neu sioe/ddrama os nad ydym wedi derbyn digon o gyfraniadau gwirfoddol.
Rydym yn defnyddio GroupEd er mwyn casglu taliadau a chaniatad gan rieni. Os am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda Swyddfa’r Ysgol.
Pan fydd yr ysgol yn trefnu ymweliad preswyl ymorth(e.e Gwersyll yr Urdd Llangrannog; Canolfan Storey Arms, Bannau Brycheiniog ac Abercraf) o fewn amser ysgol a phan fydd yr addysg yn ymwneud â’r Cwricwlwm Cenedlaethol, nid ydym yn codi tâl am yr addysg. Ond, mae’n rhaid i ni godi tâl am y llety a’r bwyd a’r trafnidiaeth. Cynigir cymorth ariannol i rieni sy’n derbyn cymorth gan y wladwriaeth.