Symud ymlaen at Ysgol Gyfun
Pan yn 11 oed, bydd y plant yn symud i Ysgol Gyfun Glantaf os ydynt yn byw yn nhalgylch Ysgol Glantaf.
Mae perthynas agos rhwng y ddwy ysgol ac fe gaiff disgyblion blwyddyn 6 gyfle i ymweld â’r ysgol uwchradd yn dymhorol cyn dechrau yno. Dros y flwyddyn fe fydd Pennaeth Blwyddyn 7 a phennaeth Ysgol Glantaf yn ymweld gyda Dosbarth Betty Campbell gyda chyn-ddisgyblion i drafod bywyd Ysgol Uwchradd.
Mae gennym berthynas dda gydag Ysgol Glantaf, mae staff o’r ddwy ysgol yn cwrdd i drafod anghenion pob un o’n dysgwyr ynghyd â mynychu sesiynau hyfforddiant ar y cyd.
Am fwy o wybodaeth, ewch ar wefan Pontio Glantaf trwy glicio yma.