Mae gan yr ysgol wisg swyddogol ac fe ddisgwylir i bob plentyn ei gwisgo. Mae ffurflenni archebu ar gael yn yr ysgol ac ar wefan yr ysgol.
- Crys chwys emrallt â logo’r ysgol
- Crys polo emrallt neu wyn â logo’r ysgol
- Sgert neu drowsus llwyd
- Sanau gwyn, llwyd neu ddu
- Esgidiau du/thywyll synhwyrol (nid ‘trainers’)
Gwisg haf
Merched
- Ffrogiau cotwm gwyn ac emrallt streipiog neu batrwm sgwariau ar gael yn siopau Marks & Spencer, esgidiau synhwyrol (h.y. dim sandalau agored na fflip fflops – am resymau iechyd a diogelwch)
- Cardigan emrallt â logo’r ysgol arno
Bechgyn
- Trowsus byr, llwyd neu siorts ysgafn.
**Mae BAGIAU DARLLEN yr ysgol ar werth yn yr ysgol am £5.
Gwisg ymarfer corff
Trowsus byr a chrys T ar gyfer gweithgareddau dan do, tracwisg a ‘thrainers’ ar gyfer yr awyr agored a gwisg nofio i ddisgyblion Blynyddoedd 3.
Dylid gosod enw’r plentyn yn eglur ar bob dilledyn gan gynnwys y ‘trainers’.
Gwersi Nofio
Mae’r plant yn cerdded yn ôl i’r ysgol ar ôl eu gwersi nofio, felly os nad ydych am iddynt gerdded yn ôl gyda gwallt gwlyb, rhaid iddynt wisgo het nofio. Nid oes amser i 30 o blant ddefnyddio un sychwr gwallt, gan bod rhaid cyflawni pynciau eraill o’r cwricwlwm hefyd.
Gemwaith
Am resymau Iechyd a Diogelwch a’r ffaith ei fod yn anaddas ar gyfer gwisg ysgol, nid ydym yn caniatau i blant wisgo gemwaith i’r ysgol. Yn unol â chanllawiau yr Awdurdod Addysg Lleol, rhaid tynnu pob darn o emwaith yn ystod gwersi Ymarfer Corff a gwersi ymarferol eraill. Os oes gan eich plentyn emwaith yn yr ysgol, eu cyfrifoldeb nhw yw’r gemwaith ar bob adeg.
Os yw eich plentyn yn mynnu cael clustdlysau a wnewch chwi plîs sicrhau bod hyn yn digwydd ar ddechrau gwyliau’r haf fel bod ganddynt y chwech wythnos sydd ei angen cyn iddynt ddod yn ôl i’r ysgol ym mis Medi.
Mae Ymarfer Corff yn rhan bwysig o’r Cwricwlwm felly a wnewch chwi sicrhau nad yw eich plentyn yn gwisgo gemwaith nad ydynt yn gallu ei dynnu i ffwrdd ar y diwrnodau yma.
Ni ddylid gwisgo lliw ar yr ewinedd (nail varnish) i’r ysgol.
Gwallt
Dylir cadw’r gwallt yn daclus. Dydyn ni ddim yn derbyn steil gwallt eithafol.
Dylir cadw’r gwallt yn ôl o’u hwynebau a’u llygaid ac os yw’n hir dylir ei glymu yn ôl.