Dosbarth Derbyn – Dewi
Athro: Mr. Marc Jon Williams
CDD- Miss Elin Evans a Miss Amy Stiles
Dewi Sant
Mae ein dosbarth ni wedi cael ei enwi ar ôl Dewi Sant. Dyma i chi wybodaeth amdano:
Mae Dydd Gŵyl Dewi yn cael ei ddathlu ar y Cyntaf o Fawrth bob blwyddyn. Dewi sant ydy nawddsant Cymru a chaiff dathliadau mawr eu cynnal dros Gymru i gyd! Mae hi’n draddodiadol i blant Cymru wisgo gwisgoedd traddodiadol Cymreig ar Ddydd Gŵyl Dewi a gwisgo bathodyn cenhinen, draig goch neu chenhinen pedr. Roedd Dewi Sant yn esgob yn Nhyddewi yn y 6ed ganrif ac roedd yn athro ac mae rhain yn dweud ei fod perfformio gwyrthiau!
Arlunydd y Dosbarth – Carys Bryn
Ganwyd Carys Bryn ar fferm ym Mhen Llyn yn 1965. ae wedi gwneud pob math o gomisiynau yn ymwneud â chelf, o ddarlunio llyfrau i beintio gwynebau! Mae Carys yn ferch fferm, mam i ddau ac athrawes celf llawn amser yn Ysgol Uwchradd Pwllheli.
Mae’r gwaith yn arddangos cyflymdra a digymellrwydd ac mae’r dechneg yn ganlyniad uniongyrchol o brysurdeb. Ymresymiad y gwaith yw mwynhau lliw, creu marciau a gwead diddorol. Allan o’r mwynhad hyn ceir gwaith yn cyfleu bywyd cefn gwlad o amgylch Pen Llyn, o anifeiliad fferm i arwyddion ffyrdd.
Bardd y Dosbarth – Mererid Hopwood
Mererid Hopwood oedd bardd benywaidd cyntaf i ennill Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2001. Mae hi bellach yn darlithio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae ganddi lu o gerddi hwyl i blant yn ogystal â chasgliad o lyfrau plant, gan gynnwys Trysor Mam-gu, Yr Ynys Hud, Dosbarth Miss Prydderch a rhigymau O’r Môr i Ben y Mynydd.
Ymarfer Corff: Dydd Mercher