Pwyllgor Iechyd a Lles 2023-24
Bwriad ein pwyllgor yw sicrhau bod plant Ysgol Mynydd Bychan yn iach. Mae ein hiechyd meddyliol yr un mor bwysig â’n hiechyd corfforol. Yn ystod y flwyddyn, byddwn ni’n helpu eraill i gadw’n heini, bwyta’n iach ac edrych ar ôl eu hiechyd meddwl.
Mae llais pawb yn bwysig i ni, felly rydym ni eisoes wedi gofyn i bob dosbarth am syniadau sut y gallwn wella iechyd a lles yn yr ysgol. Rydym ni wedi creu holiadur i weld beth yw hoff ffrwythau plant yr ysgol gyda’r bwriad o ail agor siop ffrwythau’r ysgol yn fuan iawn.
Rydym yn awyddus i wobrwyo plant sydd yn bwyta ffrwythau/llysiau amser cinio gyda thalebau clod. Hoffem ni gychwyn clybiau amser cinio sy’n hybu iechyd meddwl y plant. Mae amser chwarae yn bwysig iawn i ni. Credwn byddai nifer o blant yr ysgol yn elwa o ardal dawel i dawelu’r meddwl.
Fel cyngor, gobeithiwn fod pawb yn hapus yn Ysgol Mynydd Bychan. Rydyn ni wedi ystyried erthygl 19 o’r Hawliau plant (‘Ni ddylech gael eich niweidio a dylech gael gofal a’ch cadw’n ddiogel.’) a chyd-ysgrifennu polisi gwrth fwlio i’r ysgol sydd yn sicrhau bod pob plentyn yn yr ysgol gyda chymorth pan bo angen.
Gobeithiwn am flwyddyn hapus lle bydd plant ysgol Mynydd Bychan yn ‘Wych, Barod a Diogel’. Edrychwn ymlaen at gydweithio gyda’r plant a’r athrawon i gyflawni hyn.
Aelodau Pwyllgor Iechyd a Lles
Bl 6: Archie Jones, Harley Healey, Seth Maddaford, Shane Lambadorios
Bl 5: Elliette Rankine, Caden Marks
Bl 4: Penelope Lewis, Evan Jones
Bl 3: Marla Horton, Jack Horseman
Bl 2: Zach Wyllie, Elin Ruff