Anghenion Dysgu Ychwanegol

ADY rhieni Cymraeg

Fy enw i yw Wendy Wylie a fi yw’r Cydlynydd Anghenion Ychwanegol yn Ysgol Mynydd Bychan.

Rydw i wedi bod yn y rôl ers 2010, cyn hynny roeddwn yn athrawes mewn ysgol gynradd yn y Beddau ac yn athrawes mewn ysgol arbennig yn Nhon-teg.

Fy rôl i yw sicrhau bod pob plentyn yn yr ysgol yn cael mynediad i’r cwricwlwm ac i addysg eang a chytbwys yn ôl eu gallu. Deallaf yn llwyr fod pob plentyn yn unigryw gyda chryfderau ac ardaloedd sydd angen mwy o ddatblygiad boed yn ddatblygiad o ran llythrennedd, rhifedd neu yn emosiynol. Gyda chynllunio manwl gan yr athrawon a gwahaniaethu effeithiol ar lawr y dosbarth yna dros amser gall pob plentyn cyrraedd ei botensial.

Ar adegau, efallai y bydd angen ymyrraeth sydd wedi’i dargedu ar eich plentyn a byddwn yn cysylltu â chi drwy lythyr i’ch hysbysu o hyn.

__________________________________________________________________________________

Ymyraethau ar gael yn Ysgol Mynydd Bychan

Meithrin

      WellComm

__________________________________________________________________________________

Ymyrraeth Iaith a Llefaredd Cam Cynnydd 1

    Speech and Language Links

__________________________________________________________________________________

Ymyraethau Iaith Cam Cynnydd 2

Cychwyn Eto 

Hefyd rhaglen Stars a Sail i hybu Llythrennedd.

__________________________________________________________________________________

Ymyraethau Iaith Cam Cynnydd 3 (a Blwyddyn 3)

    Rainbow Readers

  Sound Discovery

Nessy

Maths Factor

__________________________________________________________________________________

Ymyraethau Lles Ysgol Gyfan

Elsa

 

Thrive

 

Talkabout

__________________________________________________________________________________

Yn ogystal â’r ymyraethau yma mae ein staff yn teilwra nifer o raglenni  llythrennedd a rhifedd  i greu rhaglenni i ddatblygu sgiliau eich plentyn yn y meysydd priodol megis:

  • Cued Spelling
  • Cyfres Deffro
  • Llyfrau Pitran Patrwm
  • O Gam i Gam
  • Big Cat Phonics
  • Read Write Inc
  • Mêts Maesllan

__________________________________________________________________________________

Os byddwch yn cael eich hysbysu bod eich plentyn am dderbyn un o’r ymyraethau uchod fe fydd eich plentyn yn cael ei ddysgu mewn grŵp bach neu yn unigol. Fe fyddwn yn eu hasesu ar gychwyn ac ar ddiwedd yr asesiad i fesur cynnydd. Fel arfer mae’r ymyraethau yn digwydd dros gyfnod penodol o amser.

Fe fydd gan pob plentyn sydd yn derbyn ymyrraeth Broffil Un Tudalen sydd yn rhoi y plentyn wrth wraidd y dysgu. Ni fydd plentyn sydd yn derbyn ymyrraeth ysgol ar gofrestr Anghenion Dysgu Ychwanegol yr Ysgol.

Esiampl o gwestiynau a ofynir wrth greu Proffil Un Tudalen:

Beth sydd yn grêt amdanaf i?
Beth sydd yn bwysig i mi?
Beth ydw i ei angen er mwyn bod ar fy ngorau?


Cyfarfod Plentyn-Ganolog

Weithiau bydd rhai disgyblion yn wynebu problemau mwy dwys na’r cyffredin, lle bydd angen cymorth ychwanegol arnynt. Efallai y bydd angen cael cyngor gan asiantaethau allanol a thimau arbenigol yr Awdurdod Lleol.

Fe fyddwn yn cynnal Cyfarfod Plentyn Canolog i drafod sut allwn weithio gyda’n gilydd i sicrhau llwyddiant. Yn y cyfarfod fe fyddwn yn trafod y cwestiynau yma:

Fe fyddwn yn rhoi cynllun ar waith ac yn ei werthuso ar ôl cyfnod penodol. Os credwn fod angen mwy o gymorth ar y plentyn fe fyddwn yn gwahodd y plentyn, rhieni ac unrhyw asiantaethau allanol perthnasol i gyfarfod i drafod os oes angen ystyried bod gan y plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol – ac os ydy hyn am olygu bod angen ysgrifennu Cynllun Datblygiad Unigol .

Fe fydd y Cynllun Datblygiad Unigol yn cynnwys disgrifiad o anghenion y plentyn a’r ddarpariaeth mae’r ysgol am ei ddefnyddio i geisio sicrhau datblygiad. Fe fydd y Cynllun yn cael ei adolygu pob blwyddyn neu yn gynt os oes angen.

__________________________________________________________________________________

Mwy o wybodaeth i rieni

 

Canllaw i Rieni

 

__________________________________________________________________________________

Mwy o wybodaeth i blant