Mathletics
Mae gan bob plentyn yn yr ysgol (o’r Dosbarth Derbyn hyd at Bl 6) gyfrif Mathletics. Mae tasgau newydd yn cael eu gosod yn rheolaidd ar gyfer y plant ac mae tystysgrifau’n cael eu rhannu i’r rhai sy’n ymdrechu i’w cwblhau. Os ydych chi angen y manylion mewngofnodi ar gyfer eich plentyn yna mae croeso i chi gysylltu hefo’r athrawon dosbarth.