Mae gan y Pwyllgor Eco 2 gynrychiolydd yr un o Fl. 2, 3, 4 a 5 a 4 cynrychiolydd o Fl 6. Ein themau llynedd oedd ‘Teithio Llesol’ a chychwyn ar ‘Gwella tir yr ysgol a’r ardal leol’.
Bob bore, mae plant Mynydd Bychan – o’r Derbyn hyd at Fl.6 – yn cofnodi sut wnaethon deithio i’r ysgol er mwyn ennill bathodyn newydd bob mis. Mae’r bathodynau wedi cael eu creu allan o hen botiau iogwrt! Mae’r Pwyllgor Eco yn annog plant o bob dosbarth i geisio cerdded, seiclo, sgwtera neu parcio a cherdded oleiaf 3 gwaith yr wythnos ac mae canyniadau’r ysgol yn wych!
Bu’r Pwyllgor Eco hefyd yn brysur yn trafod pa goed gallwn blannu yn ein hysgol fach ni, gan drafod gyda Choed Cymru i ddysgu pa fath o goed a phlanhigion sydd orau i’n hardal ni. Y bwriad yw i blannu mwy ar dir yr ysgol er mwyn ychwanegu ein waliau eiddew.
Bob blwyddyn, mae aelodau o’r Pwyllgor Eco yn llenwi holidaur ‘arwyr ynni’ er mwyn sicrhau bod pob dosbarth yn ceisio’u gorau glas i arbed ynni yn ystod y dydd. Maent yn diffodd y goleadau os ydynt ymlaen yn ddiangen, yn diffodd sgrin rhyngweithiol os nad yw’n cael ei ddefnyddio ac hefyd yn sicrhau bod pob dosbarth yn ailgylchu yn gywir.
Aelodau’r Pwyllgor Eco 2022-2023
Bl 6: Owen, Daniel, Dewydd ac Elin
Bl 5: Sofia a Ben
Bl 4: Betsan a Freddie
Bl 3: Lilwen a Rhys.L
Bl 2: Arlo ac Alys