Yn Ysgol Mynydd Bychan, credwn yn gryf fod taith pob plentyn o fewn yr ysgol yn unigryw ac yn werthfawr a rhoddwn bwyslais ar ddarparu profiadau dysgu cyfoethog – wedi eu seilio ar lais ein dysgwyr – sy’n eu galluogi i ddatblygu’n addysgiadol, yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn gorfforol. Credwn mai rôl pob aelod o gymuned yr ysgol yw cydweithio i sicrhau fod pob plentyn yn teimlo’n hyderus a galluog a’u bod yn cael eu hannog i fod yn uchelgeisiol – a hynny mewn awyrgylch sy’n ddiogel a chartrefol ei naws.
Mae ein diwylliant, ein treftadaeth a’n hanes fel Cymry yn ganolog i’r cwricwlwm a ddarperir a’r nod yw ysbrydoli’r dysgwyr i ymfalchïo yn eu Cymreictod. Mae ymwybyddiaeth o’u cyfrifoldebau fel aelodau o gymunedau amrywiol hefyd yn hollbwysig – boed hynny ar lefel lleol, cenedlaethol neu fyd-eang. Rydym am i’n plant barchu a dathlu amrywiaeth a hawl unigolion a charfannau o bobl i fyw yn unol ȃ’u dymuniadau. Rydym hefyd am i’n plant sylweddoli’r rôl hollbwysig sydd ganddyn nhw i’w chwarae yn nyfodol Cymru a’r byd ehangach – boed hynny fel ceidwaid heddwch neu chwyldroadwyr amgylcheddol. Ein dyhead yw sicrhau fod Cymry’r dyfodol yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus sydd â’r gallu i wneud penderfyniadau fydd yn sicrhau bod ein cenhedlaeth nesaf yn arwain y ffordd yn rhyngwladol.
Rydym am i’n plant ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn symud ymlaen i fwynhau bywyd o iechyd corfforol a meddyliol, bywyd o lewyrch a boddhad – ond tra hefyd yn meddu ar y gwydnwch i allu delio gyda’r adegau hynny pan mae heriau’n eu hwynebu. Mae’r gallu i ddatrys problemau’n hanfodol – a hynny gydag arloesedd a menter – ac rydym am weld ein plant yn myfyrio’n feirniadol ar yr hyn sy’n cael ei gyflwyno iddyn nhw yn ogystal ȃ chael eu hysbrydoli i ddefnyddio’u dychymyg yn unigryw wrth ymateb yn greadigol i wahanol sbardunau. Y nod yw rhoi ymdeimlad o hunanwerth i’r plant, tanio eu chwilfrydedd i holi cwestiynau er mwyn adeiladu eu gwybodaeth ac yna rhoi’r arfau iddyn nhw allu ateb y cwestiynau hynny’n gydag annibyniaeth gynyddol.
‘O’r fesen derwen a dyf’
yw arwyddair yr ysgol hon a’r nod yw cyd-weithio’n effeithiol gyda’r diben o gyfeirio pob plentyn tuag at y brig uchaf posibl.