Mae gennym 2 gynrychiolydd o Fl 2, 3 a 4, 4 cynrychiolydd o Fl 5 a 6 chynrychiolydd o Fl 6 ar ein Cyngor Ysgol.
Maent yn cwrdd o leiaf 2 waith y tymor. Maent yn dod â syniadau o’r dosbarthiadau i drafod yn y cyfarfod ac yna adroddir yn ôl ar yr hyn a benderfynwyd yn y cyfarfod.
Maent yn trefnu achlysuron yn ystod y flwyddyn i godi arian ar gyfer prynu rhywbeth i’r ysgol neu i roi tuag at elusen. Cydweithiant yn agos gyda’r Pennaeth a rhanddeiliaid yr ysgol er lles Ysgol Mynydd Bychan.
Cyngor Ysgol 2022-23
Harry Jones Bl 2, Nia Phillips Bl 2, Chloe Lyle Bl3, Finn Jones Bl3, Aida Mokhlessi Bl 4, Alfie Davies Bl 4, Archie Jones Bl 5, Jemima Hughes Bl 5, Ffion Blackmore Bl 6, Osian Phillips Bl 6, Rosie Frost Bl 6, Edie Oliver-Thomas Bl 6
Yn yr wythnosau nesaf rydym yn gobeithio dysgu mwy am ‘hawliau plant’ yn Ysgol Mynydd Bychan. Pob wythnos byddwn yn rhoi dau hawl newydd lan ar yr arddangosfa hawliau yn y neuadd. Pwrpas hyn yw sicrhau bod y plant yn gallu adnabod yr hawliau a deall eu hystyr. Bydd yr athrawon yn cyflwyno’r hawliau o fewn y dosabrth ac yn eu trafod yn ystod yr wythnos. Yn sicr, mae’n holl bwysig bod y plant yn deall bod yr hawliau yma yn helpu cadw ni’n ddiogel. Byddwn ni hefyd fel cyngor yn rhannu gwybodaeth am yr hawliau yma ar yr arddangosfa. Rydym ni’n anelu at gael y wobr efydd am ‘rights respecting school’ a sicrhau bod plant Mynydd Bychan yn teimlo’n hapus a diogel yn ein hysgol. Yn ein cyfarfod nesaf, byddwn ni’n creu holiadur i ddosbarthu i blant yr ysgol er mwyn deall beth ydyn nhw’n gwybod neu’n deall yn barod am yr hawliau er mwyn gwybod beth yw’r ffordd ymlaen i’r ysgol. Mae angen i ni gyflawni hyn er mwyn ennill yr efydd. Yn ogystal ag hyn mae ein ysgol am gystadlu mewn cystadleuaeth creadigol i godi ymwybyddiaeth am hiliaeth. Mae’r gystadleuaeth yn cael ei gynnal gan yr elusen ‘Dangoswch garden goch i hiliaeth’. Byddwn yn dewis y 3 ymgeisydd gorau o bob categori er mwyn eu danfon i ffwrdd i’r gystadleuaeth. I ychwanegu at hyn, rydym yn awyddus i greu bwletin newyddion Ysgol Mynydd Bychan pob Dydd Gwener er mwyn dahthlu unrhyw newyddion pwysig yr wythnos neu rannu unrhyw wybodaeth bwysig gyda holl bant yr ysgol neu i drafod unrhyw faterion sydd yn bwysig i blant yr ysgol.. Y gobaith yw gwneud hwn ar ‘tanoy’ yr ysgol.