Gwaith y ‘Criw Cymry Cŵl’ yw dathlu’r iaith Gymraeg. Yn ystod y flwyddyn hon, byddwn yn sicrhau fod pob plentyn yn yr ysgol yn siarad Cymraeg â’r athrawon â’r cynorthwywr, siarad Cymraeg â phlant ar y coridor ac yn y neuadd ginio yn ogystal ag ar iard yr ysgol. Byddwn hefyd yn annog plant yr ysgol i siarad Cymraeg gartref drwy ddysgu ambell air neu frawddeg i’w rhieni. Gobeithiwn gweld plant yr ysgol yn siarad Cymraeg tu allan i’r ysgol hefyd e.e yn y siopau, yn y parc â ffrindiau, wrth gerdded i’r ysgol, yn y Ganolfan Hamdden.
Rydym am annog plant yr ysgol i wylio rhaglenni Cymraeg ar S4C a DVDs Cymraeg, gwrando ar gerddoriaeth Cymraeg a defnyddio technoleg trwy gyfrwng y Gymraeg e.e ‘apps’, chwilio ar y We a tecstio.
Ein nod, fel Criw Cymry Cŵl yw gweld plant Ysgol Mynydd Bychan yn teimlo’n gyfforddus a hapus wrth weithio yn y Gymraeg.
Ni gyd yn credu ei bod hi’n bwysig siarad Cymraeg, felly byddwn yn trefnu gweithgareddau yn ystod y flwyddyn fel cynnal disgo Cymraeg, dysgu gemau iard i blant ysgol Gladstone a chynnal bore coffi i’r rhieni sydd am ddysgu Cymraeg.
Byddwn yn parhau i wobrwyo plant sy’n siarad Cymraeg ar yr iard gyda chownter lliw llys, ac fe fydd y llys fuddugol ar ddiwedd pob hanner tymor yn ennill amser chwarae ychwanegol a fydd yn cynnwys byrbrydau blasus!
CYMRAEG YW IAITH Y DAITH!
Criw Cymry Cŵl 2023/24
Bl2 – Xavi Peddar & Mabli Trubey
Bl3 – Begw Cope & Macsen Maynard
Bl4 – Rosa Coles & Sam Vedahir
Bl5 – Sophie Pert & Joseff Davies
Bl6 – Mia O’Brien, Elan Caddick, Sophia Watson, Lewis Bonas, Henry Wylie