Mae presenoldeb cyson a phrydlon yn ran allweddol o addysg pob plentyn ac mae’n hanfodol er mwyn sicrhau rhediad effeithiol y dosbarth a’r ysgol gyfan.
Os yw plentyn yn absennol o’r ysgol am unrhyw reswm, dylid rhoi gwybod i’r ysgol ar unwaith trwy gysylltu gyda Swyddfa’r Ysgol. Nodwch os gwelwch yn dda nad yw hysbysu’r athrawon o absenoldeb eich plentyn trwy Seesaw yn dderbyniol oherwydd mae’n bosibl na fydd yr athrawon yn gweld y neges tan unai’n hwyrach y diwrnod hwnnw neu hyd yn oed y diwrnod canlynol. Os na fyddwn yn derbyn neges yn ein hysbysu o’r rheswm am abesnoldeb eich plentyn, yna fe fydd rhywun o’r Swyddfa yn cysylltu gyda chi.
Ychydig iawn o absenoldebau heb ganiatâd a geir yn yr ysgol. Ymdrechwn i barhau gyda’r drefn hon. Erbyn hyn rhaid i ysgolion, yn gyfreithiol, gadw cofnod o absenoldebau heb ganiatád – hynny yw:
- os na fydd yna reswm digonol dros yr absenoldeb
- os na fydd esboniad gan rieni neu warcheidwaid am absenoldeb
Gofynnir i’r plant ddod i’r ysgol yn brydlon. Cyfrifir pob plentyn yn absennol os nad yw yn yr ysgol ar adeg cofrestru, heb ganiatad. Disgwylir i’r plant fod yn yr ysgol erbyn 9.00y.b.
Ni roddir caniatâd i rieni dynnu eu plant o’r ysgol i fynd ar wyliau yn ystod y tymor. Yn yr achos yma, cofnodir eich plentyn yn absennol heb ganiatâd.
Disgwyliwn fod pob disgybl yn anelu at fod yn bresennol 100%. Mae canran presenoldeb o 90% yn gyfystyr ag absenoldeb o’r ysgol am 1 diwrnod cyfan pob wythnos neu 19 diwrnod mewn blwyddyn.
Targed presenoldeb yr ysgol yw 96.2%.
Gweler Llawlyfr yr Ysgol am fwy o wybodaeth.