Diogelwch haul
Anogir plant i wisgo hetiau haul a gofynnir i rieni roi eli haul ar eu plant cyn dod i’r ysgol. Gall y plant ddod ag eli haul gyda nhw i’r ysgol, a’i rhoi arnynt eu hunain. Anogir y plant i chwarae yn y cysgod ac i yfed dŵr yn gyson.
Cau’r ysgol mewn argyfwng
Petasai sefyllfa o argyfwng yn codi yn yr ysgol (e.e. nwy, llifogydd) a bod rhaid cael pawb allan o’r adeilad ac i ffwrdd o dîr yr ysgol, rydym yn cerdded gyda’r plant i Ysgol Fairoak. Fe fyddwn yn cysylltu gyda rhieni i’ch hysbysu ac i gadarnhau’r trefniadau casglu drwy neges destun / ebost.
Petasai sefyllfa o argyfwng yn codi a olygai bod angen diogelu pawb trwy eu cadw o fewn adeilad yr ysgol, eto byddwn yn cysylltu cyn gynted a bod modd gyda rhieni trwy neges destun / ebost i’ch hysbysu, i’ch diweddaru ac i gadarnhau unrhyw drefniadau pellach.
Yn y ddau achos uchod, byddwn yn gofyn yn garedig i chi beidio a dod i’r ysgol (tan i ni ofyn i chi wneud hynny) na ffonio’r ysgol rhag ofn ein bod yn ceisio cyfathrebu gydag unrhyw Wasanaethau Brys perthnasol.
Os oes cyfnod o dywydd garw, rhoddir neges ar Wefan yr Ysgol a Gwefan Cyngor Sir Caerdydd i ddweud os yw’r ysgol ar agor neu ar gau. Byddwn hefyd yn ymdrechu i rannu’r wybodaeth yma gyda chi ar gyfrif Trydar yr ysgol ac ar Seesaw pob dosbarth. Ar achlysuron fel hyn, rhaid aros i weld os yw pob aelod o staff yn medru cyrraedd yr ysgol fel bod yna ddigon staff ar gael yn yr ysgol i sicrhau y gymhareb gywir o ran staff a disgyblion.