Blwyddyn 6 – Betty Campbell

Athro: Mr Gruffudd Hughes
Ymarfer Corff: Prynhawniau Dydd Mawrth

 

 

Betty Campbell

Mae ein dosbarth ni wedi cael ei enwi ar ôl Betty Campbell. Dyma i chi wybodaeth amdani.
Yng nghanol bwrlwm dociau Trebiwt, Caerdydd – dociau prysuraf y byd a chymuned liwgar o bobl o dros 50 o wledydd – ganwyd Betty Campbell. Roedd bywyd yn anodd i Betty a’i mam ar ôl i’w thad gael ei ladd yn yr Ail Ryfel Byd. Gweithiodd mam Betty yn galed i roi bob cyfle i’w merch. 

Roedd Betty yn caru darllen ac enillodd ysgoloriaeth i ysgol uwchradd. Hi oedd un o’r ychydig wynebau croenddu yn yr ysgol ond doedd Betty byth yn ystyried ei hun yn wahanol. Roedd hi mor glyfar â’r merched eraill ac yn gweithio’r un mor galed. 

Breuddwyd syml oedd gan Betty – roedd am fod yn athrawes. Ond ymateb creulon gafodd hi gan ei phrifathrawes i’r syniad – pwy fyddai’n rhoi cyfle i ferch fach groenddu fel Betty i wneud gwaith mor bwysig â dysgu? Gwelodd hysbyseb yn y papur newydd fod Coleg Hyfforddi Athrawon Caerdydd yn derbyn nifer fach o ferched ar y cwrs dysgu am y tro cyntaf. Wrth gwrs derbyniwyd hi i’r coleg ac aeth i Lanrhymni cyn mynd ‘nôl i ddysgu yn ardal Dociau Caerdydd. 

Yn y 1970au creodd Betty hanes wrth iddi gael ei phenodi yn brifathrawes – prifathrawes groenddu gyntaf Cymru.  Ar ddiwedd gyrfa hir roedd Betty wedi gwneud mwy na dysgu, roedd hi wedi ysbrydoli cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth o blant ardal Dociau Caerdydd i fod yn falch o’u milltir sgwâr. 

Ar 18 Ionawr 2019, cyhoeddwyd mai Campbell oedd wedi ennill y bleidlais, ac mai cerflun ohoni hi fyddai’n cael ei godi yn Sgwâr Canolog, Caerdydd, i gyd-fynd â swyddfeydd BBC Cymru yn symud i’r sgwâr erbyn 2019-2020. Cafodd y cerflun ei ddadorchuddio ynghanol Caerdydd ar 29 Medi 2021.

 

Bardd y Dosbarth (Cymraeg) – T. Llew Jones

Roedd Thomas Llewelyn Jones (11eg o Hydref 1915 – 9fed o Ionawr 2009) yn fardd Cymraeg, gyda dros hanner canrif o yrfa ym myd ysgrifennu. Ef oedd un o’r beirdd plant mwyaf poblogaidd a chynhyrchiol yn y Gymraeg. Roedd yn cael ei adnabod fel T. Llew Jones.Dethlir bywyd a gwaith T. Llew Jones bob blwyddyn ar ddiwrnod ei ben blwydd, sef 11 Hydref.

 

 

Bardd y Dosbarth (Saesneg) – Benjamin Zephaniah

Bardd plant fegan, rastafarian yw Dr Benjamin Zephaniah. Yn ei gerddi, mae Benjamin Zephaniah yn galw am gydraddoldeb hiliol ac mae ei dreftadaeth Jamaican yn dylanwadi’n gryf ar ei farddoniaeth. Yn 2015 galwodd am ddysgu Cymraeg a Chernyw mewn ysgolion yn Lloegr, gan ddweud “Mae Hindi, Tsieinëeg a Ffrangeg yn cael eu haddysgu mewn ysgolion, felly pam ddim Cymraeg? A pham na Chernyw? Maen nhw’n rhan o’n diwylliant.”

 

Wednesday, October 7th, 2020

Chwedl y Dosbarth 

Y Mabinogi yw chwedlau hynaf ac enwocaf Cymru, a’r Pedair Cainc yw straeon craidd y chwedlau hyn. Er iddyn nhw gael eu hysgrifennu ar femrwn tua wyth canrif yn ôl, bu storïwyr yn eu hadrodd ar lafar sawl canrif cyn hynny. Mae’r chwedlau wedi para cyhyd am eu bod yn dal i allu cydio yn y dychmyg â’u hud a lledrith, eu hantur, eu rhamant a’u rhyfeddodau unigryw. Branwen yw’r prif gymeriad yn yr ail o bedair cainc y mabinogi, Branwen ferch Llyr.

 

 

 

 

Artist y Dosbarth – Elfyn Lewis

Ganwyd Elfyn ym Mhorthmadog. Mae bellach yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Yn ystod ei yrfa 25 mlynedd mae wedi ennill nifer o wobrau am ei baentiadau gan gynnwys y Fedal Aur am Gelf Gain yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2009, a gwobr fawreddog Artist y Flwyddyn Cymru yn 2010. Mae hefyd wedi cael ei ethol yn ddiweddar i Academi Frenhinol y Cambrian, Conwy.

 

 

 

 

Adar y Dosbarth – Barcud Coch, Drudwen, Pal

 

 

 

 

 

 

 

 

Anifeiliad y Dosbarth – Bele, Gwiwer Goch, Madfall y Dwr

 

 

 

 

 

 

 

 

Coed y Dosbarth – Derwen, Collen, Celynnen

 

 

 

 

 

 

 

 

Blodau y Dosbarth – Sawdl y Fuwch, Glas yr Yd, Pabi Cymreig