Cynnigir gwersi cerddoriaeth gan yr ysgol i ddisgyblion Bl 3, 4, 5 a 6.
Mae’r gwersi yn cael eu cynnal yn ystod amser gwersi. Os yw eich plentyn yn cael gwersi offerynnol rhaid iddynt sicrhau eu bod yn dal i fyny gyda’r gwaith a gollwyd y dosbarth.
Rhaid talu am y gwersi o flaen llaw yn dymhorol. Darperir cymorth ariannol i blant sydd yn derbyn cinio am ddim yn yr ysgol.
| Offeryn | Tiwtor | Diwrnod |
|---|---|---|
| Chwythbrennau | Mrs Imogen Kolefus | Llun |
| Allweddell | Mr James Grindle | Llun |
| Ffidil | Mr Gareth Davies | Mercher |
| Pres | Mr Dewi Griffiths | Mercher |
| Gitar | Mr Andrew Mackin | Iau |
| Telyn | Mrs Eluned Henry | Iau |
| Drymiau | Mr Rhys Matthews | Iau |


