Pwyllgor Iechyd a Lles 2022-23
Ava Cozens Bl2, Macsen Maynard Bl 2, Clara Wilde Bl 3, Wiliam Lloyd Evans Bl 3, Barnaby Goad Bl 4, Sofia Dickinson Bl 4, Owain Phillips Bl 5, Catrin Matthews Bl 5, Ioan Climer-Jones Bl 6, Dipreet Kaur Bl 6, Arwen Herbert Bl 6, Branwen Long Bl 6
Cynhaliwyd gwasanaeth ysgol ar ddiwrnod Iechyd Meddwl gan aelodau’r pwyllgor. Rydym wedi cael blwyddyn brysur iawn yn barod eleni. Ym mis Hydref, cynhaliom wasanaeth i godi ymwybyddiaeth o ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Roedd hyn yn bwysig i ni gan ein bod eisiau helpu eraill i ddelio gydag amseroedd anodd. Rydyn ni wedi helpu i sefydlu nifer o glybiau newydd (Celf, Drama a gemau) amser cinio. Blwyddyn 6 sydd yn gyfrifol am y clybiau yma. Bu’r plant hynaf yn creu posteri i hybu deiet iach ai arddangos o gwmpas yr ysgol. Roedd diwrnodau’r parti Nadolig a theganau hefyd yn bwysig iawn i iechyd meddwl plant yr ysgol hon. Un o’r uchafbwyntiau’r flwyddyn hyd hyn yw derbyn y wobr ysgolion iach ble roedd rhaid i ni sgwrsio gydag ymwelwyr am ddulliau o gadw meddwl a chorff iach yn yr ysgol. Roedd hi’n braf cael cydweithio gyda’r cynghorau eraill ac rydym yn falch iawn ein bod wedi derbyn y wobr.