Athrawes: Miss Lucy Werrett
Ymarfer Corff – Dydd Mawrth (Dyddiau Llun o 4/11/24 tan 7/4/25)
Mae ein dosbarth wedi cael ei enwi ar ôl Buddug.
Dywedodd y Rhufeinwr enwog Tacitus fod y merched Celtaidd yr un mor fawr a brawychus â’r dynion. Os yw hyn yn wir, nid yw’n syndod iddyn nhw gymryd rhan yn yr ymladd!
Ymladdwraig enwog oedd gwraig o’r enw Boudicca, neu Buddug yn Gymraeg. Pennaeth llwyth yr Inceni oedd hi. Fe’i disgrifiwyd fel gwraig a chanddi gwallt coch trwchus i lawr at ei phengliniau.
Gwisgai diwnig liwgar, torch aur am ei gwddw a chlogyn o frethyn trwchus wedi’i chlymu gyda broetsh. Pan fyddai’n mynd i ymladd byddai’n dal gwaywffon yn ei llaw. Nid oedd yn hoffi’r Rhufeiniaid a bu’n ymladd yn eu herbyn.