Athro: Mr Tomos Rogers
CDD: Mrs Beth Bradbury a Miss Natasha Hill
Ymarfer Corff – Dyddiau Mercher
Thema’r Flwyddyn – Crwydro Caerdydd – Prifddinas Cymru
Mae ein dosbarth wedi cael ei enwi ar ôl y diweddar Rhodri Morgan – a oedd yn Brif Weinidog Cymru rhwng 2000 a 2009. Mae ei wyrion a wyres yn gyn-ddisgyblion yn Ysgol Mynydd Bychan. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am ei waith a’i fywyd.
Chwedl ein dosbarth yw Gelert. Mae’r chwedl gyfarwydd yn sôn am ‘Lywelyn’ – sef Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru – yn mynd i hela heb ei gi ffyddlon Gelert, gan ei adael i edrych ar ôl ei fab bychan. Pan ddaw’r tywysog yn ei ôl o’r hela, mae’n darganfod ei gi a gwaed dros ei ffroenau, a dim golwg yn unlle am ei fab. Gydag un trawiad o’i gleddyf, mae’n lladd ei gi. Yna, yn rhy hwyr clywai sŵn crio – roedd Gelert wedi cuddio’r tywysog bach o dan y crud, rhag y blaidd mawr, cas. Roedd Gelert wedi llarpio hwnnw, wedi amddiffyn y tywysog ac wedi ei gosbi’n ddrud am ei ddewrder.