Ysgol Mynydd Bychan ar S4C fel rhan o ddathliadau T. Llew Jones

Bydd S4C yn darlledu rhaglenni am fywyd a gwaith yr awdur T Llew Jones i nodi canmlwyddiant ei eni ym mis Hydref. Bydd pecyn o raglenni difyr i gyd-fynd â phen-blwydd geni’r cawr llenyddol, a aned ym Mhentre-cwrt ger Llandysul ar 11 Hydref 1915.  Mae’r cyfan yn dechrau gyda’r rhaglen ddogfen T Llew Jones nos Fawrth, 6 Hydref (Heno am 9:30yh) wedi’i chyflwyno gan Beti George. Bydd disgyblion yr ysgol yn ymddangos ar y rhaglen! Cofiwch wylio!