Gwaith Cartref 22.2.19

Tasg 1

I gyd-fynd gyda dathliadau Dydd Gwyl Dewi (er 3 diwrnod yn hwyr!), byddwn yn cynnal ein Wyl Gymreig wedi i ni ddychwelyd yn dilyn hanner tymor. Mae ein dosbarth wedi cael ei enwi ar ôl un o dywysogion Cymru, Llywelyn ein Llyw Olaf. Rydw i eisiau i chi ddod o hyd i rhwng 5 a 10 o ffeithiau am fywyd a theyrnasiad Llywelyn ac yna eu hysgrifennu yn eich llyfrau gwaith cartref.

Tasg 2

Darllenwch y llythyr sydd wedi cael ei anfon adref gan Mr Marc Jon Williams heddiw (22.1.19) – dyma eich cyfle chi i feddwl am syniadau ar gyfer y dathliadau sy’n cael eu cynllunio ar gyfer diwedd y tymor ym mis Gorffennaf.