Cystadleuaeth Cerddi Ffiaidd Roald Dahl

Cystadleuaeth Roald Dahl – ‘Revolting Rhymers’

Cystadleuaeth Roald Dahl newydd sbon. Cystadlwch yn Gymraeg!

Galw’r gwlithod gwael a gwachul! Mae cystadleuaeth REVOLTING RHYMERS ROALD DAHL nawr ar agor!

Mae’r gystadleuaeth gyffrous hon yn un ddwyieithog ac yn galw ar feirdd ffiaidd ysgolion cynradd Cymru i ysgrifennu’r cerddi mwyaf seimllyd, drygionus ag afiach yn y Gymraeg neu’r Saesneg rhwng 4-30 llinell gan ddefnyddio o leiaf un o gymeriadau Roald Dahl.

Cyfle i ennill:
* iPad mini
* Llyfrau i ti a dy ysgol
* Dy gerdd wedi’i chyhoeddi mewn e-lyfr!

Anni Llŷn, Bardd Plant Cymru, fydd yn beirniadu’r cerddi Gymraeg.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys awgrymiadau ffiaidd, ysbrydoliaeth a’r ffurflen gystadlu, cer i www.revoltingrhymers.com

Rhestr cymeriadau- http://www.roalddahl.com/roald-dahl/characters/

Enwau’r nofelau yn Gymraeg- https://cy.m.wikipedia.org/wiki/Roald_Dahl

#gwlithodgwaelgwachul
#RoaldDahl100Cymru