Blwyddyn 2 – Rhodri Morgan

Athro: Mr Tomos Rogers

 

 

Cynorthwy-ydd Dysgu: Rachel Chugg

 

 

 

Ymarfer Corff – Dyddiau Mercher

 

 

Thema’r Flwyddyn – Crwydro Caerdydd – Prifddinas Cymru

 

Cropped image of Rhodri Morgan at The Celebration of the Mace 5840623762 b47ba98d73 o.jpg

Mae ein dosbarth wedi cael ei enwi ar ôl y diweddar Rhodri Morgan – a oedd yn Brif Weinidog Cymru rhwng 2000 a 2009. Mae ei wyrion a wyres yn gyn-ddisgyblion yn Ysgol Mynydd Bychan. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am ei waith a’i fywyd.

 


Chwedl ein dosbarth yw Gelert. Mae’r chwedl gyfarwydd yn sôn am ‘Lywelyn’ – sef Llywelyn FawrTywysog Cymru – yn mynd i hela heb ei gi ffyddlon Gelert, gan ei adael i edrych ar ôl ei fab bychan. Pan ddaw’r tywysog yn ei ôl o’r hela, mae’n darganfod ei gi a gwaed dros ei ffroenau, a dim golwg yn unlle am ei fab. Gydag un trawiad o’i gleddyf, mae’n lladd ei gi. Yna, yn rhy hwyr clywai sŵn crio – roedd Gelert wedi cuddio’r tywysog bach o dan y crud, rhag y blaidd mawr, cas. Roedd Gelert wedi llarpio hwnnw, wedi amddiffyn y tywysog ac wedi ei gosbi’n ddrud am ei ddewrder.