Gwisg Ysgol

Rydym yn annog ein disgyblion i ymfalchïo yn logo a gwisg ysgol ein hysgol. Mae gofyn i bob disgybl o’r dosbarth Derbyn i fyny wisgo gwisg ysgol. Mae’n ddewisol yn y Feithrin.

Mae ein gwisg ar gael i’w brynu o’r YC Sports, Crwys Road ond mae modd prynu siwmperi ‘jade’ a chrysau polo ‘jade’ / gwyn heb logo’r ysgol mewn siopau/archfarchnadoedd. 

Mae Grant Datblygu Disgyblion ar gael i helpu teuluoedd i brynu gwisg ysgol, cit chwaraeon, gwisg ar gyfer gweithgareddau cyfoethogi, bagiau ysgol, deunydd ysgrifennu ac ati. Nid oes hawl defnyddio’r grant hwn ar gyfer TG.


Ffurflen gais am Grant Datblygu Disgyblion.

https://www.cardiff.gov.uk/pupildevelopmentgrant


Mae gan y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon (CRhA) grŵp ar Facebook i drefnu prynu / gwerthu / cyfnewid gwisg ysgol YMB i’n galluogi i ailddefnyddio, ailgylchu dillad a hefyd cefnogi ein teuluoedd.

https://www.facebook.com/groups/3547524565358718/

Dyma fanylion i chi am wisg yr ysgol.

  • Crys chwys emrallt â logo’r ysgol
  • Crys polo emrallt neu wyn â logo’r ysgol
  • Sgert neu drowsus llwyd
  • Sanau gwyn, llwyd neu ddu
  • Esgidiau du/tywyll synhwyrol (nid ‘trainers’ gwyn neu liwgar)

Gwisg haf

Merched

  • Ffrogiau cotwm gwyn ac emrallt streipiog neu batrwm sgwariau, esgidiau synhwyrol (h.y. dim sandalau agored na fflip fflops – am resymau iechyd a diogelwch)
  • Cardigan emrallt â logo’r ysgol arno

Bechgyn

  • Trowsus byr, llwyd neu siorts ysgafn.

**Mae BAGIAU DARLLEN yr ysgol ar werth yn yr ysgol am £5.

Gwisg ymarfer corff

Trowsus byr a chrys T ar gyfer gweithgareddau dan do, tracwisg a ‘thrainers’ ar gyfer yr awyr agored a gwisg nofio i ddisgyblion Blynyddoedd 3.

Dylid gosod enw’r plentyn yn eglur ar bob dilledyn gan gynnwys y ‘trainers’.

Os am brynu hwdis Ymarfer Corff, defnyddiwch y linc canlynol-

https://www.totalteamwearuk.com/clientshops/ysgolmynyddbychanhoodie/ysgolmynyddbychanhoodie2023.htm

Gwersi Nofio

Mae’r plant yn cerdded yn ôl i’r ysgol ar ôl eu gwersi nofio, felly os nad ydych am iddynt gerdded yn ôl gyda gwallt gwlyb, rhaid iddynt wisgo het nofio. Nid oes amser i 30 o blant ddefnyddio un sychwr gwallt, gan bod rhaid cyflawni pynciau eraill o’r cwricwlwm hefyd.

Gemwaith

Am resymau Iechyd a Diogelwch a’r ffaith ei fod yn anaddas ar gyfer gwisg ysgol, nid ydym yn caniatau i blant wisgo gemwaith i’r ysgol. Yn unol â chanllawiau yr Awdurdod Addysg Lleol, rhaid tynnu pob darn o emwaith yn ystod gwersi Ymarfer Corff a gwersi ymarferol eraill. Os oes gan eich plentyn emwaith yn yr ysgol, eu cyfrifoldeb nhw yw’r gemwaith ar bob adeg.

Os yw eich plentyn yn mynnu cael clustdlysau a wnewch chwi plîs sicrhau bod hyn yn digwydd ar ddechrau gwyliau’r haf fel bod ganddynt y chwech wythnos sydd ei angen cyn iddynt ddod yn ôl i’r ysgol ym mis Medi.

Mae Ymarfer Corff yn rhan bwysig o’r Cwricwlwm felly a wnewch chwi sicrhau nad yw eich plentyn yn gwisgo gemwaith nad ydynt yn gallu ei dynnu i ffwrdd ar y diwrnodau yma.

Ni ddylid gwisgo lliw ar yr ewinedd (nail varnish) i’r ysgol.