E-ddiogelwch

Mae cadw’n ddiogel wrth ryngweithio gyda’r byd digidol yn un o’r sgiliau pwysicaf yn y byd sydd ohoni. Y gobaith ydy y bydd yr wybodaeth sydd ar y dudalen hon yn eich cyfeirio at adnoddau sydd yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei angen arnoch er mwyn i ni allu cefnogi ein gilydd fel cymuned i gadw pawb yn ddiogel ac yn hapus ar-lein.

Faint ydyn ni’n ei wybod am ddefnydd ein plant o wefannau, apiau a gemau? Mae’r poster yma o ‘National Online Safety’ yn cynnig cyngor o ran y mathau o gwestiynau y gallwn ni fod yn eu gofyn.

 

Cadw’n ddiogel ar-lein

Mae’r adran yma o wefan Hwb yn arbennig o dda ac mae’n cynnig cyngor ac arweiniad ar bob agwedd o e-ddiogelwch i rieni a gofalwyr.

 

Rhwydweithiau Cymdeithasol

Mae’n peri pryder mawr i ni fel staff yn gyson fod nifer o ddisgyblion yr ysgol yn defnyddio rhwydweithiau cymdeithasol sydd yn anaddas ar eu cyfer. Mae’r poster isod yn dangos yr cyfyngiadau oedrannau ar gyfer defnyddio gwahanol rwydweithiau cymdeithasol.

Os ydych yn parhau i fod yn fodlon i’ch plentyn fod â chyfrif personol ar y rhwydweithiau cymdeithasol yma, yna mae’r adrannau isod o ganllawiau Hwb yn ddefnyddiol gan ei fod yn egluro sut y mae modd addasu gosodiadau a phroffiliau ar wahanol blatfformau er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl wrth eu defnyddio.

Canllawiau ynghylch apiau i deuluoedd
Cael sgwrs gyda’ch plentyn
Canllaw i rieni a gofalwyr ar sgoriau oedran mewn apiau a gemau

 

Gemau ac Apiau

Wrth drafod gyda phlant yn y dosbarthiadau ac ar yr iard, mae’n dod i’r amlwg yn aml bod nifer o blant yn chwarae gemau sydd yn anaddas ar gyfer eu hoedrannau gyda rhai hyd yn oed yn cyfaddef eu bod yn chwarae gemau sydd â thystysgrif o 18+ h.y. bod disgwyl iddyn nhw fod yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn i’w chwarae.

Os ydych chi’n defnyddio lawrlwytho apiau ar ddyfais neu’n prynu gemau ar gyfer unrhyw ‘console’, yna bydd pob gêm/ap gydag oedran awgrymedig gan PEGI. Mae’r symbolau yn edrych fel hyn:

Mae’r poster isod yn egluro ychydig mwy ar system PEGI.

Ac mae mwy o wybodaeth i’w gael wrth ddilyn y ddolen isod.

http://www.pegi.info/

 

Gwefannau defnyddiol eraill

Swiggle
Dyma borwr diogel y gall y plant ei ddefnyddio er mwyn dod o hyd i wybodaeth.

 

Common Sense Media
Gwefan arbennig o dda os ydych am weld os yw apiau neu gemau penodol yn addas ar gyfer eich plentyn. Mae hefyd yn cynnig yr un gwasanaeth ar gyfer ffilmiau, rhaglenni teledu, llyfrau a.y.y.b.

 

NSPCC
Canllawiau defnyddiol ar destunau yn amrywio o addasu gosodiadau preifatrwydd ar rwydweithiau amrywiol i awgrymiadau o ran sut i drafod e-ddiogelwch gyda’ch plentyn.

 

Childnet
Llu o adnoddau a gweminarau achlysurol ar faterion e-ddiogelwch.

 

 

Internet Matters
Gwybodaeth a chyngor ddefnyddiol iawn y mae modd ei rannu yn unol ag oedrannau’ch plant.

 

CEOP (Child Exploitation and Online Protection)
Sut i fynegi pryder am ymddygiad a chyfathrebiad ar-lein?
Beth i’w wneud os oes gennych bryder am eich plentyn a’u hymddygiad ar-lein?

 

UK Safer Internet Centre
Adnoddau i gefnogi gan drefnwyr Diwrnod Defnydd Diogel o’r Rhyngrwyd.