Cyngor Ysgol

Mae gennym 2 gynrychiolydd o Fl 2, 3 a  4,  4 cynrychiolydd o Fl 5 a 6 chynrychiolydd o Fl 6 ar ein Cyngor Ysgol.

Maent yn cwrdd o leiaf 2 waith y tymor. Maent yn dod â syniadau o’r dosbarthiadau i drafod yn y cyfarfod ac yna adroddir yn ôl ar yr hyn a benderfynwyd yn y cyfarfod.

Maent yn trefnu achlysuron yn ystod y flwyddyn i godi arian ar gyfer prynu rhywbeth i’r ysgol neu i roi tuag at elusen. Cydweithiant yn agos gyda’r Pennaeth a rhanddeiliaid yr ysgol er lles Ysgol Mynydd Bychan.

Yn yr wythnosau nesaf rydym yn gobeithio dysgu mwy am hwaliau i blant yn Ysgol Mynydd Bychan. Pob wythnos fyddwn yn rhoi hawl newydd lân ar yr arddangosfa hawliau yn y neuadd. Pwrpas hyn yw sicrhau bod y plant yn gallu adnabod yr hawliau a deall eu hystyr.  Bydd yr athrawon yn cyflwyno yr hawliau o fewn y dosabrth ac yn eu trafod yn ystod yr wythnos ac yn ein sesiynau Hawl-Iau. Yn sicr, mae’n holl bwysig bod y plant yn deall bod yr hawliau yma yn helpu cadw ni’n ddiogel . Byddwn ni hefyd fel cyngor yn rhannu gwybodaeth am yr hawliau yma ar yr arddangosfa. Rydym ni’n anelu at gael y wobr efydd am ‘rights respecting school’ a sicrhau bod plant Mynydd Bychan yn teimlo’n hapus a diogel yn ein hysgol. I ychwanegu at hyn, rydym yn awyddus i gyflwyno hawl yr wythnos pob bore Llun ar yr uwchseinydd.

Ein ffocws arall fydd datblygu a gwella amser chwarae gwlyb. Rydym wedi derbyn cyllid gan yr ysgol, sef £40 i bob dosbarth. Y nod yw defnyddio yr yr arian yma yn synhwyrol i brynu adnoddau newydd a phwrpasol ar gyfer amser chwarae gwlyb. Aelodau cyngor pob dosbarth fydd hefyd yn helpu monitro y dosbarthiadau a sicrhau bod yr adnoddau yn cael eu defnyddio yn barchus ac yn gywir.

Aelodau’r Cyngor Ysgol

Bl 6 – Catrin Matthews, Eirlys Ennis, Owain Phillips, Jacob Sutton, Ben Steer

Bl 5 – Gwion Cope, Mari Alys George

Bl 4 – Evie Davies, Alfie Jones

Bl 3 – Ava Cozens, Tom Bridges

Bl 2 – Tomos Roberts, Mila Rogers