Pwyllgor Eco

Travel Tracker       KWT1.jpg

Mae gan y Pwyllgor Eco 2 gynrychiolydd yr un o Fl. 2, 3, 4 a 5 a 4 cynrychiolydd o Fl 6.

Blaenoriaethau’r  Cyngor Eco 2023-24

 Ein hamcan eleni ydy i barhau i leihau defnydd plastig yn yr ysgol ac adref. Byddwn yn cydweithio gyda B .6 i gynnal wythnos ddi-gynhyrchion plastig untro yn nhymor yr haf i weld faint o wastraff plastig ddi-angen rydym yn ei gynhyrchu, gan wneud yn siŵr bod bin Terracycle yn cael ei ddefnyddio yn iawn

Rydym hefyd yn awyddus i dreialu bore neu prynhawn ddi-drydan! Mae gennym ddiddordeb codi ymwybyddiaeth o sbwriel yn ein hardal leol ac am geisio trefnu gweithgareddau i godi ‘sbwriel. Rydym hefyd wedi sylwi nad yw biniau’r ysgol yn cael eu defnyddio yn gywir, yn enwedig bin ffrwythau ar y iard, felly hoffem gynnal gwasanaeth ysgol i ddangos sut i’w defnyddio yn gywir.

Byddwn yn parhau i wneud arsylwad ynni ac ailgylchu ym mhob dosbarth. Rydym yn bwriadu gwneud yn siŵr bod staff a disgyblion yr ysgol yn diffodd goleuadu eu dosbarthiadau amser chwarae a chinio. Byddwn hefyd yn parhau i fonitro ‘Teithio Llesol Wow’ ac annog pawb i gerdded/seiclo a sgwtera i’r ysgol!

Mae gennym ddiddordeb i gynnal diwrnod ‘creu gyda defnydd ailgylchu’ er enghraifft poteli llaeth. Rydym eisiau creu posteri i’w rhoi ar y biniau er mwyn annog plant i ailgylchu. Yn nhymor y Gwanwyn byddwn yn plannu ffrwythau a llysiau er enghraifft mefus, tatws, moron, perlysiau yna’u gwerthu gyda’r cyngor Iechyd a Lles.

Rydym eisiau cynnal ‘Diwrnod Gwisgo Gwyrdd’ i godi arian i brynu bin Terracycle newydd, ffyn codi sbwriel, hadau a photiau i dyfu planhigion.

Rydym yn hoffi’r syniad o ddod a dillad i’r ysgol yna cyfnewid dillad yn hydtrach na phrynu rhai newydd.

Diolch,

Y Cyngor Eco

Bl6: Bill, Rori, Josh, Ruby, Bl 5: Dylan, Grace, Bl 4: Alys, Madoc, Bl 3: Daisy, Regan, Bl 2: Skārleta a Henry