Clwb Brecwast

Cynhelir Clwb Brecwast am ddim pob bore.

Bwriad y cynllun yw hybu iechyd plant a’u gallu i ganolbwyntio er mwyn cynorthwyo â’r gwaith o godi safonau dysgu a chyflawniad.

Am resymau Iechyd a diogelwch rhaid i ni gadw at nifer penodol o blant yn ddyddiol.

  • Fe fydd y Clwb yn dechrau am 8.25 yb, ni fydd mynediad i unrhyw blentyn sy’n cyrraedd cyn yr amser yma o dan unrhyw amod.
  • Fe fydd drysau y clwb brecwast yn cau am 8.40 yb, – does dim mynediad i’r clwb brecwast ar ôl 8.40.
  • Mae staff y clwb yn gorfod tacluso a glanhau’r neuadd erbyn dechrau diwrnod ysgol.
  • Fe fydd y plant yn ymadael â’r Clwb Brecwast ac yn mynd allan i’r iard am 8.50 yb, os fydd y tywydd yn ddrwg fe fyddan nhw’n mynd i’r dosbarthiadau am 8.50y.b.
  • Mae ‘na aelodau o staff ar ddyletswydd am 8.50y.b.

Nid yw hyn yn clwb gwarchod ond yn fenter sy’n rhoi brecwast iach i’r plant a rhaid i bob plentyn sydd yn mynychu’r Clwb Brecwast fwyta brecwast.

Nid yw brecwast am ddim yn hawl. Gallwn fel ysgol wrthod unrhyw blant ar sail bod eu hymddygiad yn annerbyniol.  Disgwyliwn i’r plant ddangos parch a moesgarwch wrth y bwrdd.

Rhaid derbyn llythyr os fydd eich plentyn yn peidio â dod i’r Clwb Brecwast er mwyn i ni fedru cynnig lle i blentyn arall.