Chwedl Dosbarth Gelert yw Gelert.
Mae mwy o wybodaeth am y chwedl i’w weld ar dop y dudalen.
Athro: Mr Iolo Williams
Cynorthwy-ydd Dysgu: Rachel Chugg
Ymarfer Corff – Dyddiau Iau
Mae ein dosbarth ni wedi cael ei enwi ar ôl Gelert. Mae’r chwedl gyfarwydd yn sôn am ‘Lywelyn’ – sef Llywelyn Fawr, Tywysog Cymru – yn mynd i hela heb ei gi ffyddlon Gelert, gan ei adael i edrych ar ôl ei fab bychan. Pan ddaw’r tywysog yn ei ôl o’r hela, mae’n darganfod ei gi a gwaed dros ei ffroenau, a dim golwg yn unlle am ei fab. Gydag un rawiad o’i gleddyf, mae’n lladd ei gi. Yna, yn rhy hwyr clywai sŵn crio – roedd Gelert wedi cuddio’r tywysog bach o dan y crud, rhag y blaidd mawr, cas. Roedd Gelert wedi llarpio hwnnw, wedi amddiffyn y tywysog ac wedi ei gosbi’n ddrud am ei ddewrder. (Gwybodaeth o Wicipedia)
Chwedl Dosbarth Gelert yw Gelert.
Mae mwy o wybodaeth am y chwedl i’w weld ar dop y dudalen.
Arlunydd Dosbarth Gelert yw Rhiannon.
Mae darnau o waith gan Rhiannon i’w gweld yn Neuadd yr Ysgol ac ar y ffordd i fyny y grisiau. Roedd plant o’r ysgol wedi ei helpu i greu y darnau yma.
Bardd Dosbarth Gelert yw Tudur Dylan Jones.
Mae Tudur Dylan Jones yn Brifardd oherwydd ei fod wedi ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1995 ac yn 2005. Roedd e hefyd yn Fardd Plant Cymru rhwng 2004 a 2005.