Oriau ysgol
Annogir rhieni i sicrhau bod eu plentyn yn cyrraedd yr ysgol ar amser.
Derbyn, Bl 1 a 2
- Cofrestr 9.00
- Sesiwn y bore 9.05 – 10.15
- Gwasanaeth 10.15 – 10.30
- Egwyl 10.30 – 10.45
- Ail sesiwn y bore 10.45 – 12.00
- Amser cinio 12.00 – 1.00
- Sesiwn y prynhawn 1.00 – 2.00
- Egwyl 2.00 – 2.10
- Ail sesiwn y prynhawn 2.10 – 3.15
Adran Iau
- Cofrestr 9.00
- Sesiwn y bore 9.05 – 10.35
- Gwasanaeth 10.35 – 10.50
- Egwyl 10.50 – 11.05
- Ail sesiwn y bore 11.05 – 12.15
- Amser cinio 12.15 – 1.15
- Sesiwn y prynhawn 1.15 – 3.20
Yr Uned Feithrin
- Sesiwn y bore 9.15 – 11.45
- Sesiwn y prynhawn 12.55 – 3.25
Am fwy o wybodaeth, cliciwch yma i weld copi o Lawlyfr yr Ysgol.
Diogelwch haul
Anogir plant i wisgo hetiau haul a gofynnir i rieni roi eli haul ar eu plant cyn dod i’r ysgol. Gall y plant ddod ag eli haul gyda nhw i’r ysgol, a’i rhoi arnynt eu hunain. Anogir y plant i chwarae yn y cysgod ac i yfed dŵr yn gyson.
Cau’r ysgol mewn argyfwng
Petasai argyfwng yn yr ysgol e.e. nwy, llifogydd a bod rhaid cael pawb allan o’r adeilad ac i ffwrdd o dîr yr ysgol, rydym yn defnyddio neuadd yr Eglwys Efengylaidd, Heol Eglwys Newydd. Fe fyddwn yn cysylltu gyda rhieni drwy neges destun neu galwad ffôn.
Os oes cyfnod o dywydd garw, rhoddir neges ar wefan yr ysgol, Radio Cymru, Radio Wales, Capital Radio, Red Dragon a Gwefan Cyngor Sir Caerdydd i ddweud os yw’r ysgol ar gau. Ar achlysuron fel hyn, rhaid aros i weld os yw pob aelod o staff yn medru cyrraedd yr ysgol fel bod yna ddigon staff ar gael yn yr ysgol i sicrhau y gymhareb gywir o ran staff a disgyblion.